SNPTCAN  Hysbysiad Preifatrwydd System Atgyfeirio

Mae eich preifatrwydd yn hollbwysig. Rydym yn cadw ac yn prosesu gwybodaeth i’n galluogi i’ch cynghori a’ch cynorthwyo gyda’ch problem neu’ch achos.

Ein haddewid preifatrwydd i chi:

  • Byddwn yn cadw eich gwybodaeth yn ddiogel ac yn gyfrinachol
  • Chi sy’n rheoli sut rydym yn defnyddio’ch gwybodaeth – gallwch optio i mewn neu allan neu newid eich dewisiadau ar unrhyw bryd
  • Byddwn yn sicrhau bod ein staff, gwirfoddolwyr a defnyddwyr system yn gwybod sut i reoli eich gwybodaeth yn briodol ac yn unol â rheoliadau
  • Ni fyddwn yn rhannu eich gwybodaeth ag unrhyw un arall oni bai eich bod yn rhoi caniatâd i ni wneud hynny

Sut y defnyddir eich gwybodaeth

Pan fyddwch yn rhoi caniatâd i wneud hynny, bydd sefydliadau sy’n defnyddio System Atgyfeirio SNPTCAN yn anfon eich gwybodaeth at sefydliad y maent yn credu gallent roi cymorth pellach neu fwy priodol i chi.

Gwneir hyn fel bod y sefydliad y maent yn anfon yr atgyfeiriad ato yn gallu cysylltu â chi ac fel y gallent gael darlun clir o’ch sefyllfa a rhoi’r cyngor a’r cymorth cywir i chi.

Mae’n ofynnol i’r sefydliadau sy’n anfon ac yn derbyn eich gwybodaeth yn ystod yr atgyfeiriad hwn drin eich data yn unol â chyfraith y DU.

Efallai y byddwn hefyd yn defnyddio eich gwybodaeth ar ffurf astudiaeth achos ddienw neu adborth gan gleientiaid i roi gwybod i bobl am y gwaith rydym yn ei wneud, ac wrth wneud cais am gyllid i gefnogi ein gwasanaethau. Os byddwn yn gwneud hyn ni fydd eich manylion.

Sut byddwn yn cadw eich cofnodion yn gyfrinachol

Rydym yn cofnodi eich gwybodaeth ar ein system atgyfeirio ddiogel.

Er yn arferol, byddwn ddim ond yn rhannu gwybodaeth amdanoch chi gyda sefydliadau eraill yr ydych eisoes wedi rhoi caniatâd penodol i ni wneud hynny,  eithriad i hyn fyddai os credwn fod gennym resymau dilys dros rannu sydd mor bwysig fel eu bod yn diystyru ein rhwymedigaeth i gyfrinachedd (e.e. i atal rhywun rhag cael niwed difrifol).

Eich hawl i gael mynediad i’r wybodaeth rydym yn ei chadw amdanoch

Gallwch ofyn am weld y wybodaeth sydd gennym amdanoch ar unrhyw adeg. Byddwn yn cydymffurfio â cheisiadau o’r fath o fewn 1 mis.

Eich hawl i gywiro

Rydym yn cymryd camau rhesymol i sicrhau bod y wybodaeth sydd gennym amdanoch yn gywir. Fodd bynnag, os ydych chi’n credu ar unrhyw adeg bod unrhyw un o’n cofnodion yn anghywir, rhowch wybod i ni a byddwn yn ei newid. Byddwn hefyd yn rhoi gwybod i unrhyw sefydliad arall yr ydym wedi rhannu’r wybodaeth honno ag e am unrhyw newidiadau y mae angen eu gwneud.

Eich hawl i ddileu

Byddwn yn cadw eich gwybodaeth am 7 mlynedd ar ôl eich cyswllt olaf â ni, oni bai eich bod yn gofyn i ni ei ddinistrio cyn hyn.

Gallwch dynnu yn ôl eich caniatâd i ni gadw eich data ar unrhyw bryd

– gallwch wneud hyn ar lafar neu yn ysgrifenedig. Os tynnwch eich caniatâd yn ôl, byddwn yn dinistrio eich data o fewn 1 mis.

O bryd i’w gilydd ni fyddem yn cydymffurfio â chais i ddinistrio’r wybodaeth sydd gennym amdanoch. Os bydd hyn yn digwydd byddwn yn egluro’r rhesymau pam i chi ac yn rhoi gwybod i chi beth y gallwch ei wneud os nad ydych yn cytuno â’r penderfyniad hwn.