Amdanom ni

System atgyfeirio SNPT CAN

Mae Rhwydwaith Cyngor Cymuned Castell-nedd Port Talbot Abertawe (SNPT CAN) yn bartneriaeth o ganolfannau cynghori lleol sy’n darparu cyngor a chymorth am ddim ym meysydd cyfraith lles cymdeithasol. Mae’r canolfannau cynghori yn cydweithio drwy SNPT CAN i sicrhau bod trigolion Abertawe Castell-nedd Port Talbot yn cael mynediad at gyngor o ansawdd uchel am ddim ar fudd-daliadau lles, dyled, tai, iechyd a meysydd eraill o gyfraith lles cymdeithasol.

Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Beth yw'r system atgyfeirio?
  • Annog atgyfeiriadau cywir ac amserol rhwng asiantaethau
  • System broffesiynol a dibynadwy
  • Gellir gael mynediad o unrhyw ddyfais gan ei fod ar y we
  • Monitro atgyfeiriadau i gynhyrchu adroddiadau a dadansoddiad
Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Manteision i'r cleient:
  • Yn llwyr osgoi’r angen i’r cleient ailadrodd ei stori
  • Byddant yn cael eu cyfeirio at yr asiantaeth fwyaf priodol ar gyfer eu hamgylchiadau penodol, wedi’u teilwra’n llwyr i gleientiaid.
  • Atgyfeiriadau diogel a chyflym
  • Bydd y sefydliad sy’n derbyn yn cysylltu â’r cleient
Your Title Goes Here

Your content goes here. Edit or remove this text inline or in the module Content settings. You can also style every aspect of this content in the module Design settings and even apply custom CSS to this text in the module Advanced settings.

Manteision i'r Asiantaeth:
  • Mynediad i nifer o sefydliadau
  • Atal dyblygu gwaith
  • Yn gallu olrhain cynnydd gwaith sy’n mynd allan
  • Anfon gwybodaeth gyfrinachol yn ddiogel
  • Hyrwyddo gweithio mewn partneriaeth a rhannu mynediad

I gofrestru eich sefydliad, cysylltwch â ni yn snptcan@swansea.ac.uk i drafod y camau nesaf.

Cwrdd â’r Tîm

Tîm SNPTCAN – Charlotte Watkins a Ellen Parker-Jones

Charlotte Watkins

Mae Charlotte Watkins yn un o Gydlynwyr y Prosiect Peilot.  Ar hyn o bryd mae Charlotte yn cwblhau ei gradd meistr a’r Cwrs Ymarfer y Gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe. Ar ôl gweithio’n agos gyda’r gymuned yn flaenorol, gan ddarparu cefnogaeth a chyfeirio myfyrwyr trwy ei rôl ar y pwyllgor gwaith, mae hi’n fedrus wrth reoli a llywio prosiectau; ac mae ganddi ddealltwriaeth ragorol o’r gwasanaethau cynghori yn yr ardal. Prif rôl Charlotte yw allgymorth i asiantaethau, darparu cefnogaeth a hyfforddiant i ddefnyddwyr y system, gan sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.

Ellen Parker-Jones

Mae Ellen Parker-Jones yn un o Gydlynwyr y Prosiect Peilot.  Yn wreiddiol, cymhwysodd Ellen fel cyfreithiwr a bu’n gweithio fel cyfrieithiwr.  Ar ôl symud i’r Trydydd Sector, mae gan Ellen brofiad sylweddol o weithio fel rhan o, a rheoli, gwasanaeth cynghori.  Mae Ellen yn ymwybodol iawn o fanteision defnyddio’r System Atgyfeirio.  Mae Ellen yn gweithio gyda Charlotte i gefnogi’r asiantaethau sy’n defnyddio’r System Atgyfeirio, gan ddarparu cymorth gweinyddol a hyfforddiant ar sut mae’r system yn gweithio tra’n sicrhau bod pawb yn cael profiad da wrth ddefnyddio’r system atgyfeirio.

Tîm Clinig y Gyfraith Abertawe – Professor Richard Owen a Eve Haynes

Mae Clinig y Gyfraith Abertawe (SLC) yn arwain y peilot i weithredu’r defnydd o system atgyfeirio SNPTCAN yn ardal Castell-nedd Port Talbot Abertawe. Mae SLC yn rhan o Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe.

Professor Richard Owen (Cyfarwyddwr y Clinig)

Ar hyn o bryd mae Richard yn aelod o Fwrdd Cynghori LawWorks Cymru ac mae’n Gadeirydd Pwyllgor Mynediad at Gyfiawnder Cymdeithas y Gyfraith a Phwyllgor Llywio Rhwydwaith Cyngor Rhanbarthol Castell-nedd Port Talbot.

Eve Haynes (Rheolwr y Clinig)

Eve Haynes yw Rheolwr Clinig y Gyfraith Abertawe. Hi sy’n gyfrifol am redeg, trefnu, gweinyddu a datblygu’r Clinig o ddydd i ddydd. Mae Eve yn gweithio gydag unigolion ar bob lefel, o ystod o gefndiroedd a chymunedau amrywiol, gan gynnwys Cyfarwyddwr y Clinig, gweithwyr cyfreithiol proffesiynol, partneriaid allanol, myfyrwyr a chleientiaid y Clinig.

Diolch i’n noddwyr am gefnogi ein gwaith:

Am fwy o wybodaeth: Coordinated Community Support.